Croeso
Croeso i wefan Eifion Lewis.
Rwyf yn gweithio yn Abertawe ers Tachwedd 2005 ac nawr yn Gorseinon a Caerfyrddin hefyd. Mai Osteopathi yn driniaeth cyfannol am y corff, a mae peth gwybodaeth ar y wefan hon. Hefyd gallwch siarad gyda fi a gofyn y cwestiynnau sydd ar eich meddwl.
Pa help y gall Osteopathi ei roi?
Gall helpu gyda phoen, anesmwythyd a/neu ddiffyg symudiad unrhyw le yn y corff, yn enwedig yn:
- y cefn
-y gwddf
-y pelfis
- yr ysgwyddau
Mae'n effeithiol hefyd gyda:
- pen tost, lle bod cysylltiad gyda'r gwddf
- colig, trafferth cysgu a bwydo babi
- cwdwm sborts
Hanes Osteopathi
Ar ddiwedd yr19fed ganrif, yr oedd meddyg yn America, Andrew Taylor Still a welodd llawer o ddoddefaint yn y wlad o ganlyniad i’r Rhyfel Cartref. Wedi marw dau o’i blant, penderfynnodd Dr Still bod yn rhaid cael gwell meddygaeth na’r un ar y pryd.
Astudiodd y corff dynol (anatomeg, sef gwedd neu ffurf y corff) ac astudiodd ffisioleg, ( sef gwaith y corff) a gwelodd bod cysylltiad rhwng y ddau. Gwelodd bod gwedd y corff yn effeithio gwaith y corff a’r gwaith yn effeiffio’r wedd.
Y berthynas hon rhwng gwedd a gwaith, gwaith a gwedd yw un o elfannau pwysicaf osteopathi.
Y Dr JM Littejohn a gyflwynodd osteopathi i Brydain ar ddiwedd y 20fed ganrif.
Triniaeth Osteopathig
Wedi gweld y berthynas, bu Dr Still yn creu ddulliau o weithio ar y corff fel bo gwedd a gwaith, gwaith a gwedd yn helpu ei gilydd.
Sylweddolodd bod perthynas rydd rhwng unedau o’r corff, yn arbennig gydag asgwrn y cefn, yn bwysig fel y gallai y nerfau rhwng y pen a’r corff, wneud eu gwaith heb rwystr.
Mae Osteopathi yn cynnig llawer techneg yn y maes hwn.
Byddaf fi yn defnyddio:
Trolio
Troi uniad tyn yn ofalus, gyda rhyddm, nes iddo symud yn rhydd ac yn rhwydd.
Gwthiad Osteopathig
Gwthiad bur a pendant er mwyn rhyddhau y stiffrwydd.
Gweithio ar y cyhiriau
Defnyddio tylino neu ymestyn i rhyddhau cyhiriau tyn. Mae technig arbennig fel TEC ( Techneg Egni’r Cyhyr) yn galli fod yn effeithiol iawn.
Tensiwn Cydbwysedd y Giau (TCG)
Mae TCG yn ffordd dyner o weithio ar y giau er mwyn adfer cydbwysedd priodol.
Caerfyrddin

D'wy gweithio yn Caerfyrddin hefyd, ar ben siop bwyd-cyfannol yr Aardvark yn Stryd Mansel, yn agos i'r farchnad.
Mae digon o le parcio i'w gael goddymyl yn yr hen farchnad.
Dyma linc i lle mai yr
Aardvark
Beth yw y gost?
Bydd y sesiwn cyntaf yn cymryd tuag tri-chwarter awr.
Bydd apwyntiadau dilynol yn canoli ar asesiad a thriniaeth; cymer hwn tua 30 munud.
Mae'r ffi yn £30 y sesiwn yn Abertawe a Gorseinon, a £27 yn Gaerfyrddin.
Cysylltu â mi
Apwyntiad ar y ffôn:
01792 203881.
Apwyntiad Ebost :
eifion.lewis@osteotaff.co.uk
Diolch am alw